Barn Bwrdd Fferylliaeth Cymru
Isod ceir barn Bwrdd Fferylliaeth Cymru ar ddefnydd y Gymraeg o fewn lleoliadau fferyllol. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon, ar ôl darllen y wybodaeth isod, cysylltwch â’n tîm cymorth Cymdeithas Fferyllol Frenhinol.
Rhoi cyffuriau ar bresgripsiwn
Mae cyfraith meddyginiaethau yn disgrifio’r gofynion y mae’n rhaid iddynt fod ar bresgripsiwn dilys yn gyfreithiol. Nid yw’r iaith yn cael ei nodi.
Barn Bwrdd Fferylliaeth Cymru yw rhoi diogelwch y claf yn gyntaf. Eich cyfrifoldeb chi yw canfod y ffordd orau i helpu’r claf. Os ydych chi’n derbyn presgripsiwn nad ydych chi’n ei ddeall yn llawn, gallai hyn fod trwy wasanaethau cyfieithu neu rwydweithiau anffurfiol. Mae rhai byrddau iechyd lleol yn dewis Llinell Iaith.
Gallai pecyn cymorth Cymraeg ar gyfer fferyllwyr cymunedol sy’n mynd i’r afael â brawddegau Cymraeg allweddol ac sy’n ymdrin â materion technegol fel dognau a labeli â rhybudd, wedi’i achredu a’i gymeradwyo gan Gomisiynydd y Gymraeg, fod yn ffordd bosibl ymlaen. Mae hyn yn rhywbeth y gwnaethom ei godi yn ein llythyr at Gomisiynydd y Gymraeg.
Presgripsiynu
Dylai presgripsiynwyr ystyried diogelwch cleifion wrth bresgripsiynu. Gallai ysgrifennu presgripsiwn yn rhannol neu’n gyfan gwbl mewn iaith ac eithrio Saesneg arwain at oedi wrth roi cyffuriau, felly os ydych chi, fel presgripsiynydd, yn credu y gallai oedi roi eich claf wrth risg, rydym yn argymell eich bod yn sicrhau bod eich presgripsiwn yn gwbl ddwyieithog neu yn Saesneg.
Labelu
Er budd diogelwch cleifion, O dan Ofyniad 266(7) am becynnu a thaflennu o fewn pecynnau sy’n ymwneud â chynhyrchion meddyginiaethol yn Rheoliadau Meddyginiaethau Dynol 2012 dywedir Gwybodaeth a rhoddir yn Saesneg, yn unol â’r rheolaidd hwn, y gellir ei rhoi mewn sawl iaith wahanol yn ogystal â’r Saesneg, ar yr amod bod yr un manylion yn ymddangos yn yr holl ieithoedd a ddefnyddir . ‘ Yn ogystal â sicrhau bod yr holl fferyllwyr yn cydymffurfio â’r gofynion cyfreithiol hanfodol hyn,...... er budd diogelwch..... dylai meddyginiaethau gael eu labelu yn Saesneg neu yn ddwyieithog yn cynnwys Cymraeg a Saesneg I sicrhau, pe bai claf yn cael ei weld gan rywun di-Gymraeg, y bydd y cyfarwyddiadau pwysig hyn yn cael eu deall.
Defnydd o labelai rhybuddiol a chynghorol y BNF
Mae’r Gymdeithas Fferyllol Frenhinol yng Nghymru yn falch iawn bod rhifyn Mawrth - Medi 2016 o’r Llyfr Fformiwlâu Cenedlaethol Prydain (BNF) yn cynnwys cyfieithiadau Cymraeg cynhwysfawr ar gyfer pob label rybuddiol a chynghorol. Mae’r labeli wedi cael eu cynhyrchu gan dîm o arbenigwyr o Brifysgol Bangor a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, roedd y tîm yn cynnwys arbenigwyr iaith a fferyllwyr.
Mae’r gwaith wedi cael ei gymeradwyo a’i gadarnhau gan y Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru (AWMSG), sy’n datblygu adnoddau i gefnogi rhagnodwyr a gwneud y mwyaf o adnoddau iechyd trwy’r defnydd diogel a chost - effeithiol o feddyginiaethau.
Mae’r labeli yn awr ar gael i fferyllwyr er mwyn cynyddu swm y cymorth iechyd a ddarperir i unigolion yn Gymraeg o fewn y GIG yng Nghymru . Mae RPS Cymru a Bwrdd Fferylliaeth Cymru yn ymwybodol fydd llawer o ddarparwyr gofal iechyd y gall claf ryngweithio â ddim yn medru deall Cymraeg ysgrifenedig. Er mwyn sicrhau diogelwch cleifion, atal oedi mewn triniaeth yn ogystal â chydymffurfio a gofynion Rheoliadau Meddyginiaethau Dynol 2012 yn hanfodol bod y labeli hyn yn cael eu cynhyrchu yn ddwyieithog yn hytrach na Chymraeg yn unig.