Datblygu'r Weledigaeth

Yn dilyn ymchwiliad un o bwyllgorau’r Senedd i reoli meddyginiaethau yn 2018, gofynnodd y Gweinidog Iechyd i Bwyllgor Fferyllol Cymru (BFC) ddatblygu cynllun yn disgrifio rolau gweithwyr fferyllol proffesiynol yng Nghymru yn y dyfodol. Roedd hwn i fod yn gynllun gan fferylliaeth ar gyfer fferylliaeth, i amlinellu’r camau i’w cymryd gan yr holl randdeiliaid i wneud y gorau o sgiliau a gwybodaeth unigryw’r proffesiwn.

Roedd dwy ran i’r prosiect hwn:

  1. Mynd i’r afael â chynllun tair blynedd ar gyfer rolau fferylliaeth yn y dyfodol hyd at 2022
  2. Parhau â'r llwybr hwn ar gyfer gweledigaeth ar gyfer fferylliaeth hyd at 2030.

Comisiynodd y BFC RPS Cymru i gefnogi a goruchwylio datblygiad y cynllun.

Rheoli’r Prosiect

  • Noddwr y prosiect – Paul Harris, Cadeirydd BFC
  • Bwrdd Prosiect - Pwyllgor BFC
  • Rheolwr Prosiect ac awdur arweiniol – Elen Jones, RPS
  • Arweinydd Datblygu Nod – Marc Donovan, aelod o BFC
  • Grŵp llywio'r prosiect - Partneriaeth Fferylliaeth Cymru ynghyd ag aelodau eraill a enwebwyd

Cyflawni'r Cynllun

I gyflawni'r cynllun, sefydlwyd pedwar gweithgor gyda chynrychiolaeth eang o bob sector ac ardal ddaearyddol. Roedd y grwpiau hyn yn cynnwys fferyllwyr a thechnegwyr fferyllol ag arbenigedd gwahanol. Roeddent yn canolbwyntio ar 4 thema wahanol, pob un ohonynt yn cyd-fynd â “ “Sicrhau Cymru Iachach”, cynllun hirdymor Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol.

Welsh Govt VISION

Ymgysylltu â’r tim fferyllfol

Wrth graidd yr adroddiad mae profiadau, barn ac uchelgeisiau’r proffesiwn yng Nghymru. Mae’r adroddiad yn cynrychioli cyfraniadau dros bedwar cant o fferyllwyr a thechnegwyr fferyllol o bob rhan o Gymru. Cyflawnwyd hyn trwy nifer o grwpiau ffocws agored a hwyluswyd gan ddigwyddiadau contractwyr RPS a CPW a sicrhaodd fod pob aelod o'r proffesiwn yn cael cyfle i ddweud eu dweud.

Ymgysylltiad Ehangach

Sefydlwyd grŵp ffocws amlddisgyblaethol i gael mewnbwn gan grwpiau proffesiynol eraill, gan gynnwys Colegau Brenhinol, sefydliadau trydydd sector a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill. Ymgysylltwyd hefyd â’r cyhoedd a chleifion i brofi rhai o egwyddorion y weledigaeth ac i gael persbectif y cyhoedd, a chyfres o gyfweliadau un i un ag arweinwyr strategol yng Nghymru.

PDaHW chart