DeliveringHealthierWales logo

Gofal Fferyllol Di-dor

Gyda mwy o gydweithio rhwng fferylliaeth a gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol eraill, gall timau fferylliaeth chwarae rhan fwy byth yn y gwaith o gydgysylltu gofal i gymryd y baich oddi ar ofalwyr a chyflymu mynediad at wasanaethau priodol.

Amcanion yr is-grŵp yw::

I gefnogi'r egwyddorion gofal fferyllol di-dor:

  • Byddwn ni’n cefnogi symudiadau’r gweithlu i ymgorffori mwy o gydweithredu ar draws pob sector gan gynnwys gofal cymdeithasol er mwyn gwella diogelwch a phrofiad y claf;
  • Byddwn ni’n newid ffocws timau ysbytai i ymateb i newidiadau wrth gyflenwi gofal a thrawsnewid mynediad at feddyginiaethau;
  • Byddwn ni’n sicrhau y datblygir rolau fferyllwyr a thechnegwyr fferylliaeth arbenigol sy’n arwain ar wasanaethau meddygaeth canoledig ar gyfer Cymru gyfan.

Er mwyn cyflawni nodau 2022:

  • Gwasanaethau fferylliaeth wedi’u hintegreiddio’n ffurfiol i rwydweithiau clwstwr;
  • Contract newydd fferylliaeth gymunedol yn cynyddu ffocws ar optimeiddio meddyginiaethau, iechyd a lles;
  • Trawsnewid mynediad at feddyginiaethau ar draws gofal eilaidd i wella ansawdd, cynaliadwyedd a gwerth..

Er mwyn cyflawni nodau 2030:

  • Bydd fferylliaeth yn rheoli’r holl feddyginiaethau fel yr arbenigwyr mewn therapiwteg, defnydd o feddyginiaethau ac optimeiddio.
  • Bydd contractau fferylliaeth gymunedol yn ategu contractau grŵp proffesiynol eraill er budd eu poblogaeth glwstwr.

Mae’r is-grŵp Gofal Fferyllol Di-dor yn cyfarfod bob deufis a’i nod yw cefnogi’r egwyddorion a chyflawni’r nodau sy’n gysylltiedig â thema Gofal Fferyllol Di-dor ofewn Fferylliaeth: Cyflawni Cymru Iachach.

TArweinir yr is-grŵp ar y cyd gan Lloyd Hambridge (Dirprwy Brif Swyddog Fferyllol yn Llywodraeth Cymru ac Arweinydd Clwstwr Gofal Sylfaenol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan) a Jonathan Simms (Cyfarwyddwr Clinigol Fferylliaeth ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan), ac mae’r aelodaeth ehangach yn cynnwys cynrychiolwyr o ofal cymunedol a chartref. GIG 111, fferylliaeth gymunedol, byrddau iechyd, clystyrau a fferylliaeth ysbytai.

Cysylltwch ag arweinwyr ein his-grwpiau os ydych yn teimlo y gallwch gyfrannu at unrhyw agwedd ar y thema hon: [email protected] neu [email protected]