Trosolwg is-grŵp rheoli meddyginiaethau digidol Ff:CCI
Cysylltodd Partneriaeth Fferylliaeth Cymru (sy’n cynrychioli Pwyllgor Fferyllol Cymru, Cymdeithas Fferyllol Frenhinol (Cymru), Fferylliaeth Gymunedol Cymru, Cymdeithas Technegwyr Fferylliaeth (Cymru) a Grŵp Prif Fferyllwyr Cymru ag Arweinydd Fferylliaeth) ag Rheoli Meddyginiaethau NWIS i sefydlu Grŵp Fferylliaeth Digidol i gefnogi elfennau digidol Fferylliaeth: Cyflawni Cymru Iachach.
Amcanion y grŵp yw:
Cefnogi’r egwyddorion harneisio arloesedd a thechnoleg:
-
Byddwn ni’n digideiddio rhagnodi meddyginiaethau a phrosesau cysylltiedig yn llwyr i gynyddu effeithlonrwydd a diogelwch ar draws pob sector/li>
- Byddwn ni’n defnyddio datblygiadau mewn technoleg i helpu pobl i gael y canlyniadau gorau o ran iechyd a meddyginiaethau
- WByddwn ni’n datblygu timau fferylliaeth a fydd yn cefnogi cyflwyniad diogel a chanlyniadau cadarnhaol i gleifion o feddyginiaethau newydd, therapïau uwch a phersonol.
Cyflawni Nodau 2022
- Cofnod iechyd electronig canolog i’r claf
- Ymgynghoriadau wedi’u hwyluso gan deleiechyd
- Systemau rheoli e-feddyginiaethau, wedi’u hintegreiddio ar draws pob sector.
Mae cofnodion meddygol electronig canolog cleifion yn cael eu cyrchu a’u diweddaru gan ymarferwyr sy’n ymwneud â’u gofal, gan gynnwys y tîm fferylliaeth.
Cyflawnir hyn drwy alinio prosiectau digidol ledled Cymru, rhannu gwybodaeth, dadansoddi data a chynhyrchu map llwybr. Bydd y grŵp yn adrodd i Fwrdd Rhaglen Gyflawni Fferylliaeth-Sicrhau Cymru Iachach (FF:CCI). Bydd y grŵp hefyd yn cysylltu â rhanddeiliaid allweddol yn ôl yr angen gan gynnwys Partneriaeth Fferylliaeth Cymru (a grwpiau cyfansoddol).
Cyfarfu’r grŵp am y tro cyntaf ym mis Mehefin 2020 ac ar hyn o bryd mae’n cyfarfod bob yn ail fis neu’n amlach os oes angen. Mae aelodaeth gyfredol yn cynnwys:
- Arweinydd Fferyllfa NWIS
- Cynrychiolydd meddygol Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru (practis cyffredinol)
- Cynrychiolwyr fferyllfeydd cymunedol yn defnyddio technoleg fel hybiau dosbarthu, systemau rhagnodi meddygon teulu, cymhwysiad Dewis Fferyllfa (CRG)
- Cynrychiolwyr fferylliaeth ysbytai yn defnyddio systemau TG e.e. Porth Clinigol Cymru, systemau e-ragnodi
- Cynrychiolydd fferyllfa GIG111
- Cynrychiolwyr o Ysgolion Fferylliaeth Caerdydd ac Abertawe
- Arweinydd Digidol RPS
- Cyfarwyddwr Bwrdd/Ymddiriedolaeth Iechyd neu Gyfarwyddwr Cynorthwyol Gwybodeg
- Ymgynghorydd nyrsio (rheoli meddyginiaethau)
- Cynrychiolydd AWTTC/WAPSU
- Cynrychiolydd diwydiant fferyllol.