Trosolwg Is-grŵp Datblygu'r Gweithlu
Cefnogi’r egwyddorion yn ‘Datblygu’r Gweithlu Fferylliaeth’:
- Byddwn yn creu safleoedd hyfforddi o safon ledled Cymru gan ddarparu lleoliadau cyn ac ôl-gofrestru ar gyfer gweithwyr fferyllol proffesiynol
- Byddwn yn gweithredu llwybrau datblygu clir ar gyfer fferyllwyr a thechnegwyr fferyllol o hyfforddiant cyn-sylfaen hyd at ymarfer uwch
- Byddwn yn parhau i ddarparu a datblygu arweinyddiaeth o ran defnyddio meddyginiaethau a gwasanaethau ledled Cymru.
Cyflawni nodau 2022 yn unol â dogfen Ff:CCI:
- Rhwydwaith o academïau hyfforddi wedi eu hariannu
- Rhaglen sylfaen wedi’i wreiddio ar gyfer pob gweithiwr fferylliaeth proffesiynol
- Rolau fferyllydd ymgynghorol ym mhob sector gan gynnwys y gymuned
- Gwreiddio strwythurau sy’n meithrin arweinyddiaeth.
Croesawodd y Bwrdd Cyflawni ddatblygiadau o ran y nodau hyn yn unol â’r canlynol:
- Rhwydwaith o safleoedd hyfforddi achrededig ledled Cymru i ddarparu hyfforddiant traws-sector ac amlddisgyblaethol
- Rhaglen datblygu'r gweithlu ar gyfer staff cymorth fferyllol
- Nod penodol i'w ddatblygu ar gyfer technegwyr fferyllol
- Cytuno ar raglen blynyddoedd cynnar briodol ar gyfer ôl-gofrestryddion
- Nod penodol i'w ddatblygu i fynd i'r afael ag uwchsgilio'r gweithlu etifeddol;
- Cytuno ar gynllun strategol i gefnogi datblygiad swyddi fferyllwyr ymgynghorol yng Nghymru yn unol ag anghenion y boblogaeth
- Datblygu nodau arweinyddiaeth ymhellach yn y proffesiwn fferylliaeth ledled Cymru.
Datganiad:
Mae AaGIC wedi gwneud cynnydd sylweddol o ran datblygu'r gweithlu. Bu newidiadau enfawr i gefnogi addysg a hyfforddiant Fferyllwyr dan Hyfforddiant yn dilyn cyhoeddi’r safonau Addysg a Hyfforddiant Cychwynnol wedi’u diweddaru ar gyfer fferyllwyr.
Mae hyfforddiant Fferyllwyr Sylfaen (cynt gael ei adnabod fel cyn-gofrestru) wedi gweld diwygiadau mawr, a bydd pob swydd Fferyllydd Sylfaen dan Hyfforddiant o fis Awst 2022 yn aml-sector ledled Cymru. Mae AaGIC wedi datblygu rhaglen hyfforddiant i gefnogi Fferyllwyr Sylfaen Ôl-gofrestru sy’n dechrau ym mis Medi 2022 ac sy’n datblygu Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Fferyllwyr Ymgynghorol yng Nghymru.
Mae AaGIC hefyd wedi sicrhau darparwr hyfforddiant newydd ar gyfer y rhaglen Technegydd Fferylliaeth Cyn-Cofrestru yng Nghymru, a fydd yn cyflwyno rhaglen ar Lefel 4 ac a fydd yn cynnwys sgiliau uwch ar gyfer Technegwyr Fferylliaeth ar adeg cofrestru. Bydd y sgiliau uwch yn helpu i gyflawni'r contract fferylliaeth gymunedol newydd.
Gweler ein dogfen lefel uchel am y newidiadau Addysg Gychwynnol a Hyfforddiant.
CYSYLLTWCH