Fferyllwyr yn ganolog i gefnogi gofal iechyd meddwl
Gan Emily Laing
Un o egwyddorion holl bwysig Fferylliaeth: Cyflawni Cymru Iachach yw bod yn rhaid i sgiliau a gwybodaeth fferyllwyr arbenigol fod yn hygyrch i gleifion yn eu cymunedau, nid dim ond mewn ysbytai. Yma, mae’r fferyllydd Emily Laing yn trafod sut mae hi nawr yn defnyddio ei gwybodaeth arbenigol iechyd meddwl o fewn gofal sylfaenol. Mae’n enghraifft wych o waith amlddisgyblaethol a thraws-sector sy’n arwain at well gofal cleifion sy’n nes at adref.
Ar ôl chwe blynedd o brysurdeb yn Llundain, penderfynais ddychwelyd adref Gymru ar gyfer rôl newydd gyffrous fel fferyllydd gofal sylfaenol uwch yn arbenigo mewn iechyd meddwl ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Roedd system gofal iechyd cymru yn newydd i mi, roedd y ffordd roedd gofal sylfaenol yn gweithredu yn newydd i mi ac roedd dechrau gwasanaeth newydd yng nghanol pandemig byd-eang yn sicr yn newydd i mi.
Yn ystod fy amser fel fferyllydd preswyl yn ymddiriedolaeth GIG Guys a St Thomas, ymgymerais â lleoliad yn ymddiriedolaeth GIG De Llundain a Maudsley, lle agorwyd fy myd i iechyd meddwl fel arbenigedd. Mwynheais yn fawr natur anrhagweladwy pob dydd, angerdd fy nghydweithwyr, yn ogystal â'r cyfrifoldeb newydd a roddwyd i mi i ddarparu opsiynau triniaeth ar sail tystiolaeth. Yn fuan wedyn, symudais o ysbyty cyffredinol I fyd iechyd meddwl, gan gwmpasu wardiau cleifion mewnol i ddechrau ond symud ymlaen wedyn i’r timau iechyd meddwl cymunedol. Yn ystod y blynyddoedd hyn, rwyf wedi bod yn ddigon ffodus i gael cymorth i gwblhau diploma clinigol, cwrs rhagnodi annibynnol ac yn fwyaf diweddar MSc mewn ymchwil fferylliaeth.
Mae cymaint o bethau anhysbys o hyd o ran iechyd meddwl. Yn aml gall canllawiau ar gyfer rhai cyflyrau ymddangos yn amwys ac angen proses ‘trial and error’ o ran triniaeth. Mae hyn yn golygu bod gan fferyllwyr fel arbenigwyr mewn meddyginiaethau rôl hanfodol mewn triniaethau iechyd meddwl.
Sicrhau bod claf yn cadw at gynllun triniaeth feddyginiaethau yw'r prif reswm dros aildderbyn i'r ysbyty. Mae hon yn rôl allweddol arall i fferyllwyr iechyd meddwl ddarparu gwybodaeth amserol am feddyginiaeth, cynnwys cleifion yn eu dewisiadau triniaeth a helpu i baru trefnau meddyginiaeth â ffordd o fyw a chredoau claf gyda’r gobaith o gefnogi ymlyniad gwell.
Pan fyddwch chi'n delio â pherson sy'n dioddef o gyfnod o ddirywiad iechyd meddwl, rydych chi'n delio â rhywun sydd fwyaf agored i niwed. Mae’n hynod werth chweil gwybod y gall fferyllwyr, fel arbenigwyr mewn meddyginiaethau, ddefnyddio’u sgiliau a’u profiad i gefnogi pobl i deimlo’n well ac i allu eu gwylio’n raddol yn mynd yn ôl i deimlo eu hunain.
Yn ystod fy rolau dros y blynyddoedd mewn gofal eilaidd, sylweddolais y gwahaniaeth yn y gwasanaethau iechyd meddwl a gynigir i bobl mewn gofal eilaidd o gymharu â gofal sylfaenol. Mae'r rhan fwyaf o wasanaethau gofal eilaidd yn llawn, sy'n golygu bod mwyafrif helaeth y cleifion sydd angen cymorth yn cael eu rheoli mewn gofal sylfaenol. Ychydig iawn o hyfforddiant iechyd meddwl y mae meddygon teulu, nyrsys practis, fferyllwyr clwstwr a fferyllwyr cymunedol yn ei gael, ac eto maent yn delio â mwyafrif y cleifion. Felly, pan welais y rôl hon yn CTM yn cael ei hysbysebu, roeddwn i'n meddwl ei fod yn gam perffaith.
Ers i mi fod yn y swydd, rwyf wedi treulio’r rhan fwyaf o’m hamser yn meithrin perthnasoedd â phractisau meddygon teulu, fferyllwyr gofal sylfaenol a gwasanaethau iechyd meddwl gofal eilaidd. Mae wedi cymryd amser i ddeall lle’r ydym ni fel bwrdd iechyd ar wahanol wasanaethau iechyd meddwl a lle mae angen inni fod. Rwyf wedi bod yn brysur yn ateb ymholiadau clinigol, yn darparu hyfforddiant i staff, ac yn gwerthuso cynnydd valproate ymhlith merched sydd â photensial i gael plant. Roeddwn hefyd yn gweithio ar roi’r gorau i Priadel ond rwyf mor ddiolchgar am yr ymgyrch RPS sydd wedi helpu i sicrhau mynediad cleifion at y feddyginiaeth hanfodol hon.
Mae hyn i gyd wedi'i wneud mewn cyfnod o ansicrwydd oherwydd y pandemig. Mae sawl her wedi bod ar hyd y ffordd ac rwy’n disgwyl mwy dros y flwyddyn i ddod ond rwy’n teimlo fy mod yn dod ymlaen bob dydd (yn araf). Er bod heriau, mae’r cyffro a’r penderfyniad i ddatblygu’r gwasanaeth hwn i gefnogi ymarferwyr gofal sylfaenol i ddarparu gwell gofal i gleifion yn rhagori ar yr heriau. Teimlaf yn ddiolchgar iawn o gael y cyfle i lunio gwasanaethau iechyd meddwl gofal sylfaenol ar draws y bwrdd iechyd ar adeg pan fo’i angen fwyaf.