DeliveringHealthierWales logo

Gwella Profiad y Claf

Enhancing Patient Experience

‘Profiad claf’ yw’r broses o fesur sut deimlad yw dderbyn gofal i’r claf, ei deulu a’i ofalwyr. Mae'n elfen allweddol o ansawdd gofal, ochr yn ochr â darparu rhagoriaeth glinigol a gofal mwy diogel.

Is-grŵp Gwella Profiad y Claf Ff:CCI

Aelodau'r is-grŵp

  • James Doble (Arweinydd) – Fferyllydd Cymunedol
  • Clare Clements – Fferyllydd Arweiniol Gofal Sylfaenol Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
  • Prif Fferyllydd Gwasanaethau Cleifion BIAP
  • Sudhir Sehrawat - Fferyllydd Cymunedol
  • Kathryn Davies – Technegydd Optimeiddio Meddyginiaethau Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
  • Geraldine McCaffrey- Fferyllydd Arweiniol Ymchwil a Datblygu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Ein Pwrpas

Rydym yn ymrwymo i hyrwyddo nodau ‘Gwella Profiad y Claf’ a dylanwadu ar y broses o gyflawni'r mesurau llwyddiant.

Byddwn yn gwneud hyn drwy ymgysylltu â pherchnogion nodau, deall galluogwyr a rhwystrau rhag cyflawni ynghyd â monitro cynnydd. Lle bo rhwystrau, byddwn yn helpu i arwain y “gweithgareddau cywir” gyda pherchnogion nodau i sicrhau y cyflawnir y nodau gyda chefnogaeth y Bwrdd Cyflawni.

Ein Nodau Gwella Profiad y Claf 2022

  • Fferylliaeth gymunedol fydd y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer anhwylderau cyffredin
  • 30% o fferyllfeydd cymunedol â rhagnodwr annibynnol yn darparu gwasanaethau’n weithredol
  • Bydd holl aelodau’r tîm fferylliaeth yn Gyfeillion Dementia
  • Bydd pob fferyllydd sy’n wynebu’r claf yn y sector rheoledig yn rhagnodi’n weithredol.
  • Timau fferylliaeth yn arwain y broses wrth ryddhau meddyginiaethau o’r ysbyty â chefnogaeth barhaus gan eu fferyllydd cymunedol.
James Doble, arweinydd is-grŵp Gwella Profiad y Claf:
JD

“Mae deuddeg mis ers i ni sefydlu ein his-grŵp wedi rhoi cyfle gwych i ni weithio ar draws y proffesiwn gan ddeall gweledigaeth 2030 ar gyfer fferylliaeth yng Nghymru a sut y gallem gyrraedd yno. Rydym wedi meithrin perthnasoedd cryf o fewn ein grŵp, sydd wedi ein helpu i fesur safbwyntiau gwahanol a nodi’r camau gweithredu allweddol gorau a fydd yn ein galluogi i gyflawni ein nodau. Rhan allweddol o’r hyn rydym yn ei wneud yw ymgysylltu â rhanddeiliaid i sicrhau bod yr holl feddwl yn cyd-fynd â chyflawni’r weledigaeth.”